Contact Us

Use the form on the right to contact us.

Crown Street
Caernarfon, Wales, LL55 1SY
United Kingdom

01286 875 145

Cydlynydd Cynhyrchu

Swydd Newydd: Cydlynydd Cynhyrchu

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 24ain o Dachwedd 2021

Am y Cwmni

Yn dilyn nifer o gomisiynau newydd, mae Cwmni cynhyrchu teledu Darlun yn ehangu. Ers inni sefydlu yng Nghaernarfon 3 blynedd yn ôl, da' ni wedi cynhyrchu a golygu nifer o gyfresi teledu poblogaidd fel Gwesty Aduniad, Ysgol Ni, Maesincla, Helo Syrjeri a llawer mwy. Dros y ddwy flynedd nesa', mae sawl prosiect newydd ar y gweill ar gyfer BBC Cymru, BBC Rhwydwaith ac S4C, ac ar gyfnod mor gyffrous i ni fel cwmni, rydym yn chwilio am Gydlynydd Cynhyrchu i ymuno â'r tîm.


Disgrifiad Swydd

Bydd y Cydlynydd Cynhyrchu yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Cynhyrchu i reoli prosiectau teledu o’r cyfnod cyn-gynhyrchu hyd at ffilmio, ôl-gynhyrchu a chyflwyno’r cynnwys terfynol i’r darlledwr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn trefnu a darparu adnoddau ar gyfer  cynyrchiadau yn ôl y galw.

Prif ddyletswyddau:

  • Cynorthwyo’r timau cynhyrchu gyda threfniadau a gweinyddiaeth cynyrchiadau;

  • Cofnodi’n gywir y costau sy’n gysylltiedig â phrosiectau ac adrodd hyn i’r Pennaeth Cynhyrchu a'r Uwch gynhyrchydd;

  • Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i): creu amserlenni, rheoli archif a chliriadau hawlfraint;

  • Sicrhau bod holl ofynion cyflenwi yn cael eu bodloni ar gyfer y darlledwr priodol;

  • Logio deunydd, cynnwys crai ac offer;

  • Cyfrifoldeb dros drefniadau teithio a dros nos;

  • Gwaith papur ôl-gynhyrchu;

  • Gwaith achlysurol fel rhedwr ar leoliad.

Sgiliau Hanfodol:

  • Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn fanteisiol ar gyfer y swydd hon.

  • Sgiliau cyfathrebu da;

  • Sgiliau gweinyddu a threfnu;

  • Medru gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm;

  • Agwedd bositif

Sgiliau Dymunol:

  • Byddai trwydded yrru yn fantais i’r swydd hon.

Bydd y cyflog yn unol â phrofiad.


Danfonwch eich CV at arwyn@darlun.tv er mwyn cael eich ystyried am y swydd. Neu cysylltwch os am ragor o wybodaeth drwy gwblhau y ffurflen isod.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 24ain o Dachwedd 2021